20 Mawrth 2018
Y BIL OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS (CYMRU)
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ei ystyriaeth a'i adroddiad ar y darpariaethau is-ddeddfwriaeth o fewn y Bil Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).
Yn eich adroddiad, gwnaethoch un argymhelliad:
“Rydym yn argymell y dylai’r Aelod sy’n gyfrifol gyflwyno gwelliant i’r Bil i ddileu’r geiriau “neu’n hwylus” yn adran 78(1).”
Credaf y bydd y pŵer i wneud darpariaeth yn ôl yr angen o dan adran 78 yn ddigonol i sicrhau gweithrediad effeithiol y Bil/Deddf. Felly, derbyniaf y gellid dileu'r pŵer i wneud darpariaeth sy'n "hwylus".
Fodd bynnag, o gofio bod hyn yn ymwneud â phwerau Gweinidogion Cymru, byddaf yn codi'r mater hwn gyda Llywodraeth Cymru fel rhan o drafodaethau cyffredinol ar y Bil.
Os bydd y Bil yn mynd ymlaen i Gyfnod 2, edrychaf ymlaen at weithio gydag aelodau'r Pwyllgor ar y ddeddfwriaeth yn y dyfodol.
Rwyf hefyd yn anfon copi o'r llythyr hwn at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
Yn gywir
Simon Thomas AC
Cadeirydd
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu'n Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English